Lleoliad:
Ystafell Bwyllgora 2 - y Senedd
Dyddiad: Dydd Mercher, 18 Tachwedd 2015
Amser: Times Not
Specified
Gellir gwylio’r cyfarfod ar
Senedd
TV yn:
http://senedd.tv/cy/3300
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Cynulliad: |
Christine Chapman AC (Cadeirydd) Peter Black AC Alun Davies AC John Griffiths AC Bethan Jenkins AC Janet Finch-Saunders AC Mike Hedges AC Mark Isherwood AC Gwyn R Price AC Rhodri Glyn Thomas AC |
Tystion: |
Ken Skates AC, Y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth Natasha Hale, Llywodraeth Cymru Dr Ruth McElroy, Prifysgol De Cymru John Geraint, Cyfarwyddwr Creadigol, Green Bay Angela Graham, Sefydliad Materion Cymreig Professor Tom O’Malley, Prifysgol Aberystwyth |
Staff y Pwyllgor: |
Sarah Beasley (Clerc) Sarah Sargent (Dirprwy Glerc) Robin Wilkinson (Ymchwilydd) |
Trawsgrifiad
Gweld trawsgrifiad o’r cyfarfod (PDF 395KB) Gweld fel HTML (444KB)
1.1. Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau a’r cyhoedd i’r cyfarfod.
1.2. Cafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan Gwenda Thomas AC a Jocelyn Davies AC. Dirprwyodd John Griffiths a Bethan Jenkins eu rhan yn unol â Rheol Sefydlog 17.48.
2.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan:
· Ken Skates AC, y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth
· Natasha Hale, Dirprwy Gyfarwyddwr Sectorau a Busnes, Llywodraeth Cymru
Cytunodd y Dirprwy Weinidog i ddarparu’r wybodaeth ganlynol i’r Pwyllgor:
· Barn Llywodraeth Cymru ar p’un a yw’r BBC wedi ymateb yn ddigonol i argymhellion Adroddiad King;
· manylion am waith Panel Cynghori ar Ddarlledu Llywodraeth Cymru, a’r allbynnau ohono;
· yr ohebiaeth sy’n ymwneud â galwad Llywodraeth Cymru ar gyfer diogelu cyllideb S4C;
· y cyllid ar gyfer BBC Alba a’r gymhariaeth â’r cyllid ar gyfer S4C;
· ffigurau sy’n ymwneud â’r cwmnïau cynhyrchu a chadwyni cyflenwi sydd wedi elwa o symud cynhyrchu allan o Lundain i Gymru;
· y sylwadau y mae Llywodraeth Cymru wedi eu gwneud o ran y newidiadau arfaethedig i’r Telerau Masnach rhwng darlledwyr gwasanaeth cyhoeddus a chynhyrchwyr annibynnol;
yr ohebiaeth yn ymwneud â phryderon Llywodraeth Cymru ynghylch y newidiadau i ffi’r drwydded ym mis Gorffennaf 2015
3.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan:
· Dr Ruth McElroy, Prifysgol De Cymru
· Dr John Geraint, Green Bay Media
· Angela Graham, Sefydliad Materion Cymreig
· Yr Athro Tom O’Malley, Prifysgol Aberystwyth
4.1 Nododd y Pwyllgor y papurau.
5.1 Cytunodd y Pwyllgor ar y cynnig.
6.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a gafwyd o dan eitemau 2 a 3.
7.1 Cytunodd y Pwyllgor ar drefn y drafodaeth ar gyfer trafodion Cyfnod 2, sef: Adran 3, Atodlen 1, adrannau 4 i 22, adran 2, adran 24, Atodlen 2, adrannau 25 i 32, adran 23, adrannau 33 i 41, adran 1, a’r Teitl Hir.
8.1 Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan y Pwyllgor Busnes ar Etifeddiaeth y Pedwerydd Cynulliad.